
Gong Cymru
Noddfa Sain yng Nghymru
Mae trochfeydd sain Gong Cymru yn cynnig noddfa ynghanol anrhefn a phrysurdeb y byd modern. Estynir gwahoddiad ichi arafu a gorffwys - i fod yn hytrach na gwneud. Yn ogystal â hyn, cynigir sesiynau Yoga a gweithdai achlysurol sy’n cyfuno Yoga a Sain er mwyn cefnogi eich llesiant ymhellach.

Encil Alban Hefin
19-21 o Fehefin
Nant Gwrtheyrn
Penwythnos adferol i ddathlu Heuldro'r Haf ynghanol prydfewrthwch unigryw Nant Gwrtheyrn.
Cewch gyfle i ymarfer Yoga (Dru/Hatha/Nidra) a phrofi sawl Trochfa Sain dan arweiniad Leisa (Gong Cymru). Bydd digon o amser rhydd i ymlacio, crwydro neu fyfyrio ym myd natur.
Tocynnau ar gael trwy Nant Gwrtheyrn.

Amdanaf
Helo, Leisa ydw i, sylfaenydd Gong Cymru.
Therapydd sain ac athrawes Yoga ydw i gyda degawdau o brofiad fel actor proffesiynol. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd ‘da ni’n cyfathrebu ac yn iachau y tu hwnt i eiriau. Wrth wraidd popeth rwy’n ei wneud mae cariad at greu profiadau lle gall pobl arafu, gorffwys a dod o hyd i loches mewn byd prysur, heriol. Mae cefnogi a meithrin iechyd a lles pobl yn rhoi ymdeimlad dwfn o bwrpas, ystyr a bodlonrwydd i mi.














